Rhif y ddeiseb: P-06-1337

Teitl y ddeiseb: Prynu Sycharth, cartref Owain Glyndŵr, er mwyn cadw’r safle yn saff i genedlaethau’r dyfodol.

Geiriad y ddeiseb:

Mae hanes yn bwnc mor allweddol i ni yma yn Nghymru.  Mae straeon o'n cenedl yn dangos i ni sut rydym ni wedi datblygu dros y canrifoedd i fod fel rydym heddiw.  Mae cymeriadau wedi lliwio'r hanes diddorol yma, gyda neb mor amlwg ag Owain Glyndŵr, sydd wedi cyfrannu gymaint i'n hunaniaeth, ac mae llawer yn ei ddefnyddio fel symbol y genedl.  Mae'n ddigalon iawn i weld bod cartref Glyndŵr, sef Sycharth, bron yn angof yng nghanol cefn gwlad Powys, a dyw'r lle ddim yn hygyrch iawn i bobl gael ymweld.

Mae'n amser i'r Llywodraeth fynd ati i sicrhau bod y safle hollbwysig yma'n cael ei gadw'n saff i'r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle bendigedig yma.

Mae'n siomedig gweld yr holl gestyll o gwmpas Cymru'n cael eu gwarchod, a bod y safle yma prin yn cael ei hysbysebu, heb sôn am ei ddathlu.

Mae’n amser newid y ffordd yr edrychwn ar hanes Cymru, gan ddechrau gyda Sycharth.

 

 


1.        Y cefndir

Y prif ddulliau a ddefnyddia Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yw drwy restru adeiladau a chofrestru henebion. Ystyr henebion cofrestredig yw safleoedd archeolegol gwarchodedig ac adfeilion hanesyddol gwag. Cânt eu dewis i gynrychioli holl weithgareddau dynol o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw.

Mae dros 4,000 o henebion cofrestredig yng Nghymru. O'r rhain, dim ond tua 129 ohonynt sy’n eiddo i Cadw ac yn cael gofal gan Cadw (sef is-adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru).

Nod cofrestru yw diogelu’r dystiolaeth archaeolegol sydd wedi goroesi o fewn safleoedd a henebion. Mae hyn yn cynnwys ffabrig ffisegol yr heneb ac unrhyw arteffactau cysylltiedig, a thystiolaeth amgylcheddol, er enghraifft, paill neu hadau.

Felly, os yw’r tirfeddiannwr am wneud gwaith a fyddai’n newid heneb gofrestredig yn ffisegol, mae’n debyg y byddai angen iddo wneud cais i Cadw am ganiatâd, a elwir yn gydsyniad heneb gofrestredig. Bwriad y broses cydsyniad heneb gofrestredig yw gwarchod yr heneb, ei safle a’i nodweddion rhag gwaith anghydnaws a allai ddifrodi ei phwysigrwydd cenedlaethol.

Mae swyddogion Cadw hefyd yn ymweld â henebion cofrestredig a'u perchnogion o bryd i'w gilydd i wirio cyflwr y safle ac i gynnig cyngor ar reoli'r heneb.

 

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon yn nodi bod Sycharth wedi’i gofrestru, ac:

Mae Cadw yn monitro cyflwr yr heneb yn rheolaidd ac wedi gweithio’n rhagweithiol â pherchnogion y safle, Ystad Llangedwyn, i weithredu gwaith cadwraeth er mwyn diogelu uniondeb y gwrthglawdd trwy wella’r draenio ac atgyweirio erydiad a achosir gan hindreuliad naturiol.

Mae Cadw hefyd yn parhau i weithio gyda’r perchnogion a’r ffermwr tenant i sicrhau bod y safle yn gwbl hygyrch i’r cyhoedd. Mae maes parcio bach ar y safle a mynediad trwy lwybr a chamfa, sydd wedi’u huwchraddio’n ddiweddar gyda chymorth grant ariannol gan Cadw. Gosodwyd y panel dehongli presennol gan Cadw yn 2018 ac mae’n cynnwys darlun arlunydd o’r safle fel y gallai fod wedi edrych yn nyddiau Owain Glyndŵr. Mae’r dehongliad yn pwyso ar ganlyniadau gwaith ymchwilio geoffisegol Cadw a wnaed i gefnogi cadwraeth y mwnt a dyma ein crebwyll diweddaraf o Sycharth.

Mae gan Cadw Grant henebion. Mae’r canllaw cysylltiedig yn nodi:

Rydym yn ystyried ceisiadau am grant ar gyfer gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli henebion. Caiff cynlluniau sy'n hwyluso mynediad cyhoeddus i henebion ac yn helpu’r cyhoedd i’w dehongli eu hystyried hefyd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.